Os hoffech fynychu cysylltwch â 8414 neu e-bostio hyfforddi@bangor.ac.uk
Bywyd, Y Bydysawd a Hapusrwydd, sgwrs gan John Parkinson
Dyddiad: Dydd Mercher 14 Ionawr 2009
Lleoliad: Brigantia 342
Amser: Cinio o 12yp, siarad 12:30yp
Beth ydy gwerth hapusrwydd? Pam cael agwedd bositif ac optimistaidd? Pa mor bwysig ydy'r ffactorau yma i'n bywydau a'n gyrfaoedd? Bydd y sgwrs yma'n edrych pam yn union mae hapusrwydd yn dda i ni a pha ffactorau sy'n gwneud i rywun fod yn hapus. Bydd y sgwrs hefyd yn edrych ar effeithiau hapusrwydd a sut gallwn weithio i ddatblygu ymdeimlad cryfach o hapusrwydd ac edrych yn gadarnhaol ar bethau. Yn y pen draw mae bod yn hapus yn fwy na dim ond mwynhau pleserau'r funud; mae'n ymwneud â dod o hyd i gyfeiriad ac ystyr mewn bywyd - ac felly bydd y sgwrs yn ystyried agweddau ar 'deimlo'n dda' yn ogystal ag agweddau gwybyddol ar optimistiaeth a bod yn bositif.
Pendantrwydd
Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Ionawr 2009
Lleoliad: Stryd y Deon
Amser: 10yb - 11yb
Ydy'ch chi'n gyfathrebwr da ac ydych chi'n hyderus ac yn bendant wrth ddelio a phobl?
Sesiwn bywiog byr ac yn gyfle i ystyried rhai o’r gwahaniaethau wrth ymddwyn yn ymosodol, pendant neu oddefgar. Dewch i ddysgu am strategaethau i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd anodd neu gyda phobl drafferthus.
Rheoli Amser
Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Ionawr 2009
Lleoliad: Ystafell Cynhadledd Gyrfaoedd a Chyfleoedd
Amser: 2yp - 3yp
Dim amser i fynychu gweithdy ar reoli amser? Dewch draw i'r sesiwn byr yma i geisio canfod eich 'lladratwyr amser' a dysgu sut i flaenoriaethu run pryd.
Er mwyn bod yn effeithiol mae'n rhaid dysgu trefnu eich hun yn ogystal â gwneud amser i eraill. Dewch i rannu awgrymiadau ar sut i weithio'n fwy craff.
Sut i Llwyddo Gyda'ch Addunedau Blwyddyn Newydd
Dyddiad: Dydd Iau 15 January 2009
Lleoliad: Ystafell Cynhadledd Adnoddau Dynol
Amser: 2yp - 3yp
Methu cyflawni eich addunedau blwyddyn newydd? Dewch i'r sesiwn yma i dderbyn awgrymiadau ar osod a chynllunio amcanion ac i ystyried ffyrdd o annog eich hun i llwyddo! (Sesiwn yn Saesneg)
Sut i Llwyddo Gyda'ch Addunedau Blwyddyn Newydd
Dyddiad: Dydd Gwener 16 Ionawr 2009
Lleoliad: Ystafell Cynhadledd Adnoddau Dynol
Amser: 9.30yb - 10.30yb
Methu cyflawni eich addunedau blwyddyn newydd? Dewch i'r sesiwn yma i dderbyn awgrymiadau ar osod a chynllunio amcanion ac i ystyried ffyrdd o annog eich hun i llwyddo! (Sesiwn trwy gyfrwng y Gymraeg)
Rheoli Strean Mewn Staff
Dyddiad: Dydd Gwener 16 Ionawr 2009
Lleoliad: Ystafell Cynhadledd Adnoddau Dynol
Amser: 11.30yb - 1yp
Faint ydych yn ei ddeall am straen a'i effaith ar staff yr ydych yn eu rheoli? Mae'r sesiwn yma yn eich cynorthwyo i ystyried strategaethau i leihau straen yn y gweithle.
Os hoffech fynychu cysylltwch â 8414 neu e-bostio hyfforddi@bangor.ac.uk