UWB Crest

Wythnos Lles

Ar y Diwrnod

Ddydd Llun, 12 Ionawr 2009 bydd Canolfan Chwaraeon Maes Glas yn cynnal pob math o bethau diddorol, i gyd yn ymwneud â thema eich iechyd, lles a’ch datblygiad, er mwyn eich ysgogi, apelio atoch ac ennyn eich chwilfrydedd!

Bydd y Diwrnod Lles yn gyfle i chi ddysgu mwy am yr amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd a lles. Er y cewch gyfle i roi cynnig ar wahanol chwaraeon a gweithgareddau hamdden ar y diwrnod, mae iechyd a lles yn fwy na dim ond ymarfer ac ymarfer nes byddwch yn disgyn. Mae hefyd yn ymwneud â bwyd a maeth, ymwybyddiaeth ofalgar a’r amgylchedd, a dod i adnabod y mân drychfilod sydd o’n cwmpas yn ddyddiol, yn ffrindiau a gelynion i ni fel ei gilydd.

Felly, dewch draw i’r Diwrnod Lles. Gwahoddir pawb ac mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad diddorol i ni i gyd i ddysgu a chyfarfod â phobl eraill yn y Brifysgol. Gallai hefyd, efallai, roi cychwyn ar hobi newydd a gwneud i chi newid cyfeiriad fel petae!

Peidiwch â meddwl, da chi, mai’r cyfan yw’r diwrnod yw cyfle i Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol eich llwytho â mwy o bolisïau a gweithdrefnau ac i Faes Glas  ddweud wrthych am ymarfer mwy. Mae’r Diwrnod Lles hefyd yn cael ei gefnogi gan asiantaethau allanol a phobl broffesiynol fel: Cais, GIG Gogledd Cymru a Dim Ysmygu Cymru ac, yn nes adref, adrannau eraill yn y Brifysgol, fel y Gwasanaethau Arlwyo, Datblygu Staff,  Canolfan yr Amgylchedd ac IMSCaR.

Cliciwch ar y hyper-gysylltiadau ar y chwith am fwy o wybodaeth.

Gobeithiwn eich gweld yno!