UWB Crest

Wythnos Lles

Sialens Colli Pwysau

COLLI PWYSAU!

Yn 2008, gofynnodd y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn Sialens Colli Pwysau 2008 i golli 1 stôn mewn 10 wythnos. Nid yn unig y lleihaodd y sialens faint gweisg y gwirfoddolwyr o hyd at 200 pwys, ond bu hefyd yn lleihau balansau banc y rhai a oedd wedi cytuno i’w noddi yn eu hymgais. Y llynedd, cododd y Sialens £1002.80 at Hosbis Blant Tŷ Gobaith, sy’n darparu gofal seibiant ac emosiynol a chefnogaeth ymarferol i rieni sydd wedi cael y newydd trist fod eu plant yn dioddef gan salwch angheuol.

Mae hyn yn achos teilwng dros ben. Nid yn unig y mae’n codi arian at elusen fuddiol, ond mae hefyd yn gwella eich iechyd ar yr un pryd. Felly, da chi, helpwch ni i godi arian unwaith eto eleni, a churo cyfanswm 2008, yn ôl y gobaith, gan ymuno â Sialens Colli Pwysau 2009. Does dim rhaid i chi fod â llawer i’w golli, hyd yn oed ychydig o bwysau, ond os cewch ddigon o noddwyr, mae’r ychydig o bwysau yn gallu troi’n llawer o bunnoedd i’r Hosbis.

Bydd y sialens colli pwysau 2009 yn cael eu lansio yn Ganolfan Chwaraeon Maes Glas am 1:15 ar Dydd Mercher, Ionawr 14 gan Ricardo Costa. Mae gen i'r rhai sydd wedi arwyddo i’r sialens a’r rhai sydd gan ddiddordeb gwybod beth sy’n digwydd croeso i fod yn bresennol.

Mae Ricardo yn ddietegydd meddygol sy’n gweithio yn wasanaethau rheolaeth dull o fyw a phwysau yn Wirral NHS PCT. Mae o’n gyfoes myfyriwr PhD yn Brifysgol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Fydd Ricardo yn egluro beth yw meddwl y ‘Cyfyngau Canllawiau Dyddiol’ sydd yn aml i weld ar labeli cynhyrchwr bwyd. Fydd siarad o yn egluro sut rydym ni yn gallu cyfuno derbyniad bwyd a hylif efo ymarfer corff i lwyddo i gael colled pwysau iachus

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Joe Patton ar 3847.

Yr Heriwr Colli Pwysau dwy seren yn trosglwyddo’r ‘punnoedd’ i’r Hosbis