UWB Crest

Wythnos Lles

Y Teulu Germ a'u Perthnasau Dramor

Ydych chi erioed wedi meddwl sut olwg sydd ar y ‘bygiau iachus’ hynny? Byth wedi meddwl beth mae’r ‘Use by Date’ ar eich bwyd yn ei feddwl mewn gwirionedd?

Dewch ymlaen i stondin y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch, edrych trwy’r microsgop a dysgu mwy am eich bwyd a’r bygiau a’r pryfed sy’n byw yn ein hamgylchedd ac yn ymweld o fannau mwy pellennig.

Edrychwch trwy’r microsgop a dod i nabod eich ffrindiau… a’ch gelynion.

Beth am eich bwyd; ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng dyddiadau Sell-by, Use-by a Best-Before, ac yn gwybod beth mae’r negeseuon eraill sydd ar ochr y paced neu wedi’u printio ar y caead yn ei feddwl?

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd ar ôl ar ôl i chi golchi eich dwylo…? Dewch i gael gwybod.

Treuliwch ychydig o funudau i sgwrsio a darganfod beth sy’n byw o dan y microsgop, beth mae’r labeli hynny’n ei feddwl a beth y mae angen inni edrych amdano ar ein dwylo pan fyddwn yn ymweld â glannau pellennig.

Mae croeso cyfeillgar yn eich disgwyl gan y tîm I a D (a’r bygiau…) a byddwch hefyd yn debygol o ymadael gydag un neu ddau o anrhegion am ddim!

Gobeithio eich gweld chi yno...