UWB Crest

Wythnos Lles

Mynd yn Wyrdd a'r Amgylchedd

Mynd yn Wyrdd

Ydych chi’n gwybod faint o ynni a dŵr rydym yn eu defnyddio bob blwyddyn? Neu faint o wastraff, nwyon tŷ gwydr, ac elifiant rydym yn eu cynhyrchu? Sut rydym ni’n wneud o ran ailgylchu, a sut rydym yn cymharu â Phrifysgolion eraill o ran materion Gwyrdd? Byddwch yn gweld hyn i gyd, a mwy, wrth ymweld â’r stondin Mynd yn Wyrdd / Rheolaeth Amgylcheddol.

Profwch eich gwybodaeth â’r Cwis Gwyrdd, a chasglu rhai pethau sy’n llesol i’r  amgylchedd am ddim ar yr un pryd!

Mynyddoedd â chopaon gwyn, traethau euraid, Parc Cenedlaethol, afonydd a llynnoedd dilychwin a dyfroedd arfordirol – does dim llawer o Brifysgolion yn gallu brolio’r manteision hyn ar eu stepen drws, ac ni ellwch beidio â chael argraff gan yr hyn sydd gan ein hardal i’w gynnig.

Rydym yn ymfalchïo’n wirioneddol yn ansawdd ein hamgylchedd ym Mhrifysgol Bangor, ac rydym wedi ymrwymo i’w amddiffyn a’i gwella. Mae hyn yn golygu meddwl am yr effaith a gaiff popeth rydym yn ei wneud, a ph’un a allwn, o safbwynt amgylcheddol, ei wneud mewn ffordd amgenach.

Gwefan y Brifysgol ar Reolaeth Amgylcheddol