UWB Crest

Wythnos Lles

Rydyn Ni'r Hyn yr Ydym yn ei Fwyta

“Ein Bwyd yw ein Bywyd!”

Pa mor aml rydym wedi clywed y gosodiad hwnnw a rhai eraill fel “os ydych yn bwyta eich llysiau gwyrddion, byddwch yn tyfu’n fawr ac yn gryf”, a “byddwch yn cael gwallt cyrliog os ydych yn bwyta eich crwstyn.”? Ond pe bai hyn yn wir, byddai nifer ohonom yn edrych fel pêl-droedwyr o’r 70au neu’n waeth!

Mewn ymgais i wahaniaethu rhwng y gwir a’r gau o ran y chwedlau sy’n gysylltiedig â’r bwyd rydym yn ei fwyta, bydd y Diwrnod a’r Wythnos Les yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am fwyd a maeth. Bydd hefyd yn gychwyn i Sialens Colli Pwysau 2009, sydd wedi’i hanelu nid yn unig at golli pwysau a chodi arian at Hosbis Blant Tŷ Gobaith, ond hefyd at bobl sydd yn ceisio gwella eu diet nhw a bwyta’n fwy iach.

Mae labeli bwyd hefyd yn gallu achosi rhwystredigaeth, gan fod bwyd sydd wedi’i  farchnata fel pe bai’n gymharol iach, ac y gallech ei ddewis am eich bod yn meddwl bod o’n well i chi, mewn gwirionedd heb fod mor iach â hynny, wrth ochr cynhyrchion cyffelyb. Felly, beth yw Kj a Kcal, pa fraster sy’n ‘dda’ a pha fraster sy’n ‘ddrwg’ a beth yw ystyr ‘% o’ch lwfans dyddiol’? Hefyd pryd rydych chi i fod i daflu bwyd allan gan fod ei ‘Use by Date’ neu ei ‘Best Before Date’ wedi mynd heibio?

I ateb rhai o’r cwestiynau hyn, dewch ymlaen i’r Diwrnod a’r Wythnos Lles i ddysgu mwy am yr hyn sydd yn ein bwyd ac ar labeli’r bwydydd hyn.