Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar
Sesiwn Undydd Ymwybyddiaeth Ofalgar - Dewch i gael blas o ymwybyddiaeth ofalgar drosoch eich hun!
Dydd Iau, 15 Ionawr 2009, 9.00am-4.30pm
Ystafell Gynhadledd, Hen Goleg, Prifysgol Bangor
Mae’r Diwrnod Blasu yn
• gyfle i chi weld a yw ymwybyddiaeth ofalgar yn teimlo’n berthnasol i’ch bywyd chi
• Cyfle i brofi amrywiaeth o ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar (fel y dysgir ar ein Cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar 8 wythnos)
Bydd cyflwyniad byr hefyd i’r sail ddamcaniaethol ar gyfer dulliau wedi’u seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar
Mae cyllid ar gael i nifer cyfyngedig o staff y Brifysgol.
Beth fydd y diwrnod yn ei gynnwys?
Byddwn yn edrych ar amrywiaeth o ffyrdd y gallwn ddysgu "ymddangos" yn llawnach yn ein bywydau. Byddwn yn edrych ar ddod ag ymwybyddiaeth i weithgareddau bob dydd fel bwyta a cherdded. Byddwn ni hefyd yn rhoi arweiniad i chi mewn ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar a fydd yn cynnwys symudiadau ysgafn, eistedd, a gorwedd i lawr.
Fel yr ydym yn gwneud yr ymarferion hyn, byddwn yn edrych ar sut y gallwn ganolbwyntio ein hymwybyddiaeth ar elfennau o’n profiad mewn ffordd gyfeillgar a chwilfrydig. Byddwn ni wedyn yn adfyfyrio ar y dysgu sy’n codi o’r ymarferion, a pherthnasedd hyn i’n bywyd bob dydd.
Manylion Cyswllt
Am ragor o fanylion, neu i neilltuo lle, cysylltwch ag Anne Douglas ar 01248 382939 neu ewch i’n gwefan www.bangor.ac.uk/mindfulness
Y Dystiolaeth ar gyfer Dulliau Ymwybyddiaeth Ofalgar
Awgryma ymchwil y gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar gael amrywiaeth o effeithiau ar ein cyrff a’n meddyliau. Y mae wedi dangos, er enghraifft, ei fod yn lleihau lefelau straen, yn helpu pobl i reoli poen cronig, lleihau’r tebygolrwydd o gael ail bwl o iselder, a gwella’r cyflymder mae croen yn gwella i bobl gyda soriasis.
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn agwedd at fywyd wedi’i seilio ar y ddealltwriaeth ganlynol –
'the present is the only time that any of us have to be alive - to know anything - to perceive - to learn - to act - to change- to heal'
(Kabat-Zinn 1990)
Mae ein Cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar 8 wythnos yn dechrau fis Chwefror / Mawrth, ac mae ar gael hefyd fel Cwrs Dysgu o Bellter
Gall y cwrs eich helpu i:
• Ymdrin yn fwy effeithiol gyda straen a phryderon
• Adfer cydbwysedd, rheolaeth a thawelwch meddwl
• Wynebu salwch a phoen gyda mwy o hyder.
• Ymlacio’n haws, a chael mwy o fwynhad mewn bywyd.