UWB Crest

Wythnos Lles

Wythnos Lles

Yn ystod yr wythnos 12 - 16 Ionawr 2009 bydd y Brifysgol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a chynlluniau newydd i hyrwyddo iechyd a lles staff. Bydd yr wythnos yn dechrau gyda digwyddiad rhyfeddol yng nghanolfan chwaraeon Maes Glas, lle bydd cyfle i ddysgu am nifer o agweddau ar iechyd a lles; o faeth i ymlacio, gweithgareddau hamdden i’r amgylchedd, ac o ddatblygiad personol i edrych ar y trychfilod bach sy’n ffynnu yn eich bwyd.

Dewch draw i’r Diwrnod Lles, mae gwahoddiad i bawb ac mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad diddorol i ni i gyd.

Am weddill yr wythnos cynhelir nifer o ddigwyddiadau am ddim a sesiynau blasu i staff i’n helpu i ddod i adnabod y pwnc dipyn bach gwell a gweld a ydym, mewn gwirionedd, yn hoffi dringo, troelli, tai chi neu ymarfer bocsio (boxercise). Cewch gyfle hefyd i ddysgu am ymwybyddiaeth ofalgar, yoga a chyfleoedd hunanddatblygiad sydd ar gael i’r holl staff; gellwch hyd yn oed ymuno â sialens colli pwysau 2009!

Poster - lawrlwythwch fersiwn PDF (7.0mb)